SL(5)243 - Gorchymyn y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni CRC (Dirymu ac Arbedion) 2018
Cefndir a Diben
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu yn y Deyrnas Unedig Orchymyn y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni CRC 2013 (Gorchymyn 2013) gydag arbedion. Mae hefyd yn gwneud diwygiadau i Orchymyn 2013 i'r graddau y mae'n parhau i weithredu yn rhinwedd yr arbedion hynny. Mae hefyd yn diwygio Gorchymyn y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni CRC 2010 (Gorchymyn 2010) i'r graddau y mae'n parhau i weithredu yn dilyn ei ddirymu, gydag arbedion, gan Orchymyn 2013.
Roedd Gorchymyn 2013 a Gorchymyn 2010 yn sefydlu cynllun masnachu allyriadau sy’n berthnasol i allyriadau uniongyrchol ac anuniongyrchol o gyflenwadau nwy a thrydan gan gyrff a gweithgareddau cyhoeddus.
Y weithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad yn ei gylch o dan Reol Sefydlog 21.2(ix) (nad yw'r offeryn wedi'i wneud yn Gymraeg a Saesneg, nac i’w wneud), gan fod yr offeryn hwn wedi'i wneud yn Saesneg yn unig.
Rhinweddau: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Medi 2018